Blog Ysgol yr Eifl

Friday, March 30, 2007

Trawsfynydd, sillafu noddedig a sioe

Dydd Mawrth aethom i Drawsfynydd i gael hwyl efo gwyddoniaith. Cawsom hwyl a chawsom ddysgu llawer am wyddoniaeth. Roeddem yn teithio am bron i awr ar y bws. Ar ol dysgu am flodau cawsom wneud blodau papur efo partner. Cawsom weld sioe, gwneud gwaith efo tywod a gweithio efo lliwiau gwahanol. Cafodd pawb wobr o bensel a tedi ar y diwedd.





Dydd Iau roeddem yn cymryd rhan mewn sillafu noddedig er mwyn codi pres i’r ysgol. Gobeithio y byddwn wedi codi llawer iawn o bres.

Heddiw ydi diwrnod diwethaf y tymor, a cawsom sioe Rownd a Rownd gan rai o’r genod. Maen nhw’n hoffi gwneud sioe i ni ar y diwrnod olaf. Roeddynt yn action yn dda iawn.





Dafydd a Jac.

Friday, March 23, 2007

Pentref Peryglon a syrcas yn yr ysgol

Dydd Mawrth daeth clown efo’i syrcas fach i’r ysgol i ddangos triciau i ni. Roedd yn gallu gwneud triciau arbennig o dda. Er enghraifft roedd yn troelli 8 o gylchoedd ar unwaith, ac roedd rhai plant yn cael trio y triciau eu hunain.







Ddydd Iau cafodd plant blwyddyn 5a 6 fynd i Bentref Peryglon yn Prestatyn efo plant ysgol Rhostryfan. Cawsom ddysgu am pob dim sydd yn berygl – yn y ty, wrth deithio, ar y fferm, ar lan y mor, ar y mynydd ac ar y lon fawr. Roedd o yn hwyl fawr ac roedd y ddynas oedd yn mynd a ni o gwmpas wedi ei magu yn Nhrefor – Brenda yw ei henw ac mae hi’n perthyn i Dafydd a Rhiannon.



Pethau i beidio gwisgo ar y mynydd



Siarad am beryglon lan y mor.



Y diafol bach sy'n ein harwain at drybeini.



Croesi'r stryd yn ddiogel.



Chris ar lan y mor.

Roedd Ysgol Rhostryfan yn rhyfedd am bod yna un deg saith yn y dosbarth, un deg chwech o enethod ac un bachgen. Druan bach o’r hogyn!

Yn diwedd roedd a ni yn cael cwis gyda chyfrifiadur – tebyg i Who Wants to be a Millionaire. Roedd o’n hwyl fawr ac roeddem yn medru gweld ein hatebion fel graffiau ar y sgrin. Y sgor yn diwedd oedd 71.25%.os ‘dwi’n cofio’n iawn.

Wiliam

Tuesday, March 20, 2007

Ymweliad a Segontium

Ddydd Mercher aeth plant blwyddyn 3,4,5 a 6 i Segontiwm yng Nghaernarfon i ddysgu mwy am y Rhufeiniaid. Roedd caer Rufeinig fawr iawn yn Segontium ers talwm, ac mae ei gweddillion i’w gweld hyd heddiw. Mae yna amgueddfa fach yno hefyd.



Roedd rhaid i ni rannu i mewn i ddau dim. Aeth tim Mrs Harris i mewn i’r amgueddfa yn gyntaf a siaradodd dyn efo ni am oes y Rhufeiniaid a dangos rhai o’r pethau yn yr amgueddfa i ni.. Roedd tim Mr Larsen allan yn siarad am yr hen gaer ac yn mesur y waliau.








Luke a Lowri

Friday, March 09, 2007

Ailgylchu ffonau symudol

Ar Ddydd Mercher daeth pobl sydd yn gwneud rhaglen deledu o’r enw Ffeil i’r ysgol i ffilmio plant blwyddyn 5 a 6 oherwydd ein bod wedi penderfynu ailgylchu hen ffonau symudol yn lle eu gwastraffu nhw.

Cawsom hwyl efo 200 or ffonau symudol a gwneud patrwm ffon symudol mawr efo nhw. Wedyn daeth dyn tynnu llyniau o’r papur newydd acw i dynnu ein lluniau. Lluniau Luke, Elain, Haydn a Jac, Elizabeth a Lauren a gafodd eu tynnu.

Cawsom fynd i’r Ganolfan Hamdden Ddydd Gwener. Dydan ni ddim wedi bod yno am tua 3 wythnos oherwydd roedd yr ystafelloedd newid yn cael eu hail wneud.

Ddydd Iau cawsom redeg rownd yr iard am y tro cyntaf ar ol y gaeaf.





Elizabeth a Rhiannon

Friday, March 02, 2007

Eisteddfod Gwyl Ddewi

Ddoe roedd hi’n Ddydd Gwyl Dewi a cawsom eisteddfod ysgol yn festri Capel Maes y Neuadd. Roedd pawb yn dda iawn. Elyrion wnaeth ennill, daeth Hendre yn ail, Ceiri yn drydydd a’r Eifl yn bedwerydd. Roedd o yn hwyl fawr. Glesni Owen, Rhian Parry ac Enlli Griffith oedd yn beirniadu, ac Alun Roberts oedd yn arwain.



Tim Elyrnion yn dathlu.

Yn ystod yr wythnos oedd y timau i gyd yn ymarfer yn galed, ac roedd Lauren mewn stres mawr yn ceisio cael trefn ar dim yr Eifl.

Dechreuodd y clwb plant nos Fercher. Roedd Llinos Roberts a mam Nonn yno efo’r plant a cafodd y plant wneud amlinelliad ohonyn nhw eu hunain a’i addurno efo ffoil.



Clwb Plant

Molly a Elizabeth