Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, February 19, 2006

Matsen yn y toiledau!

Dim llawer iawn wedi digwydd yr wythnos yma ond bod rhywun wedi tanio matsen yn nhoiled y genod ddydd Mercher. Nid oedd neb yn fodlon cyfaddef mae nhw oedd yn gyfrifol ac efallai y bydd rhaid i Mr Larsen ffonio’r heddlu.

Ar ol cinio aethom i’r Ganolfan Hamdden roeddan ni yn gwneud brake dancing, sydd yn hwyl faw. Y prynhawn yma rydan ni am gael gwers gelf gyda Mrs Harris a rydw i’n edrych ymlaen yn arw at hynny.

Elain

Friday, February 03, 2006

Mr Larsen yn cael y myll.

Yr wythnos yma cafodd Mr Larsen y myll efo ni oherwydd bod yr hogiau yn dod i mewn yn fwd i gyd trwy’r amser, am eu bod yn taflu ei gilydd o gwmpas.. Cawsom ni lawer o gyflei gallio ond yn y diwedd roedd yn rhaid iddo ein gwahardd ni oddi ar y gwellt, ac rwan dim ond ar y cowt mae yr ydym yn cael chwarae. Diolch yn fawr hogiau.

Dydi’r ysgol rwan ddim yn cael chwarau Tic British Bulldog chwaith oherwydd bod yna hogyn ddim yn cymryd ei ddal ac yn gwneud i bawb ffraeo. (Tipicyl) Beth bynnag, oeddech chi yn gwybod bod Mr Larsen yn gallu chwarae y gem yn wych? Wrth helpu Stewart daliodd ddau o’r disgyblion sydd fel arfer yn gallu rhedeg trwy pawb yn hawdd mewn eiliad neu ddwy.

Ar brynhawniau Mercher ‘rwan yn ystod y sesiwn rhedeg pell rydym yn gorfod mynd rownd y trac synthetig ddeg o weithiau i wneud y milltir gyflawn os ydych chi yn cofio dim ond wyth gwaith oedd y plant yn gorfod rhedeg o’r blaen ac roedd hynny yn anodd, ond rwan mae’n rhaid rhedeg ddeg o weithiau rownd y trac heb stop. Gwaith anodd iawn.

Megan