Blog Ysgol yr Eifl

Friday, May 23, 2008

Glan y Mor a Thre'r Ceiri

Ddydd Llun roeddem yn ymarfer rownderi a phel droed yn barod erbyn y gystadleuaeth ar ddiwrnod cyntaf yr hanner tymor nesaf yn Rhostryfan.

Mae yna lawer o blant wedi dod a phres copr i’r ysgol ac mae gennym £24.80 a mwy hefyd. Ddydd Mercher roeddem yn ymarfer rownderi ac pel droed o amser chwarae tan amser cinio.

Ddydd Iau aeth plant blwyddyn 3,4 a 5 i fyny’r mynydd i Dre’r Ceiri ond roedd plant blwyddyn 6 wedi mynd i Ysgol Glan y Môr am y diwrnod. Dyma ychydig o’r hanes gan Luke:

Roedd Ysgol Glan y Mor yn ddifyr iawn. Yn gyntaf cawsom wneud technoleg ac wedyn dyma ni yn cael cinio. Wedi hynny cawsom wersi Cymraeg ac wedyn Saesneg. Fy ngwers orau fi oedd technoleg. Roeddem yn gwneud peth i’w roi ar drws. Amser egwyl fe ges i 2 grempog ac amser cinio mi ges i chips spageti slush puppy a bisged siocled mawr.

Aeth plant bl 3,4,5 a 6 i fyny Tre’r Ceiri ac dyma ychydig o’r hanes. Cawsom gychwyn am 9:30 i fynd i’r bys ac aeth y bys a ni i Llithfaen. Roeddan wedi stopio wrth yml yr allt ac roeddem yn gorfod cerdded i fyny’r allt. Ar ol rhyw 20 munud roeddem yn gorfod cerdded dros gamfa ac ar ol chwarter awr aethom dros gamfa arall.









Wedi i ni gyrraedd y top cawsom archwilio Tre’r Ceiri ac wedi hynny cawsom fwyta ein cinio ac ar ffordd lawr roedd pawb wedi blino ac roedd yr bws yna yn barod. Cyrhaeddodd pawb y bws yn un darn. Ddydd Gwener roedd yna grwpiau i fod i arddio ond doedd Valmai methu dod, ond roedd yna grwpiau efo Mrs Larsen yn gwnio yn y prynhawn.

Leah a Non a Luke

Thursday, May 22, 2008

Wythnos amrywiol

Ar ddydd Llun cawsom chwarae efo rhai o’r tegannau newydd am yr tro cyntaf roeddem yn cael yr hula- hoops. Roedden nhw yn hwyl fawr hefyd.

Ar ddydd Mawrth fe gawsom ni yr rhaffau sgipio a doedd yna neb i ddweud gweddi yng
ngwasanaeth Mr Larsen am ei fod o wedi anghofio dweud wrth rhyw un gwneud weddi.

Ar dydd Mercher daeth Valmai i’r ysgol i blanu tatws efo'r plant oherwydd ei bod yn bwrw ddydd Gwener.

Ar dydd Iau mi aeth athrawes Saesneg o Ysgol
Glan y Mor i roi ymarfer i ni ar sgwrsio yn Saesneg,
trwy wneud dramas gyda ni.

Hefyd cawsom ddechrau gorchuddio map o Romania am bod mae na deg o bobl o Drefor
yn mynd yna am wythnos ac rydan ni yn codi pres iddyn nhw. Ac gwnaethom orchuddio'r map ac wedyn mynd ati i gyfri y pres. Roedd yna £12.60 yna i gyd. Rydym am wneud hyn lawer o weithiau.



Ar ddydd Gwener daeth dynes o'r gwasanaeth
tan i gael sgwrs efo ni am ddiogelwch tan.

Hefyd daeth dynas o wlad bell i son am ei gwaith. Enw y
wlad oedd Seara Leon.

Elizabeth a Molly.

Tuesday, May 06, 2008

Chwilio mawr yn Nhrefor

Roedd dydd Llun yn ddiwrnod trist braidd yn Nefyn oherwydd bod dyn o Nefyn wedi disgyn i’r mor o’i gwch ac roedd dau helicopter a phedwar bad achub allan yn chwilio amdano. Roeddent yn chwilio am amser maith a dydyn nhw byth wedi ei ffeindio fo.

Bob dydd Gwener bron mae Mrs Larsen yn dwad i wnio efo ni a heddiw mae yna grwp arall yn mynd heddiw. Pob dydd Gwener hefyd mae mam Geraint a Geraint bach yn dod i arddio a heddiw roeddem yn planu tatws yn yr ardd. Mae’r ddwy hefyd wedi bod yn gwneud o gwmpas yr ysgol yn ddel a phlanu planhigion yno.

Sunday, May 04, 2008

Garddio a Gwaith Celf

Yr wythnos yma roedd mam Elin a Geraint a thad Elin yn dod i fynd ymlaen a’r ddau ardd. Byddwn yn planu tatws a llysiau a radish. Cawsom hefyd wneud gwaith celf efo Mrs Harris gan wneud cerflyn clai o’n ffrind.



Mae Roberta sydd wedi bod yn gweithio efo plant dosbarth Miss Griffith yn ein gadael ni heddiw. Bydd yn mynd i Rwmania i helpu plant amddifad yno mewn dipyn. Rydym yn gobeithio y byddwn yn clywed ganddi oddi yno.



Jac a Luke