Blog Ysgol yr Eifl

Monday, December 24, 2007

Wythnos olaf y tymor

Bydd adroddiad llawn ar gael maes o law. Yn y cyfamser ychydig o luniau.

CL











Saturday, December 15, 2007

Gwasanaeth 'Dolig a thaith i weld Sion Corn

Nos Fercher cawsom berfformio ein gwasanaeth o’r diwedd yn Eglwys San Sior. Roedd pawb yn cofio eu darnau yn dda iawn ac roedd pawb yn perfformio yn dda.





Dydd Iau roeddan yn mynd i Lanberis i weld Sion Corn ar y dren Llyn Padarn. I ddechrau aethom i’r caffi a chael parti Nadolig. Yna ar ol cael bwyd aethom ar y tren bach ar hyd ochr y llyn. Cymerodd tua chwartar awr neu fwy i gyrraedd grotto Sion Corn sydd wrth ochr y llyn.

Pan wnaethom ni gyrraedd aethom i mewn i’r grotto mewn grwpiau i weld Sion Corn a chael anrheg ganddo. Cawsom hefyd chwarae a rhoi ein pennau wrth ben dyn eira ac naeth Sion Corn rhoi anrheg i ni ac pryd oedd pawb wedi cael anrheg aethom yn nol ar y tren.

Deg munud wedi 3 aethom yn nol ar y bws i fynd adra. Naethom gyrraedd Trefor tua 4 o gloch ac roedd rhai yn gorfod mynd yn nol ir ysgol i nol ei bagiau a mynd adre’n hapus.


































Leah,Lois,Michaela a Non

Monday, December 10, 2007

Ymarfer at y Gwasanaeth Nadolig

Dydd Llun naeth Mrs Harris ddod yn ol i’r ysgol ar ol bod i ffwrdd am fwy nag wythnos. Rydan ni wedi bod yn brysur yn ymarfer y sioe Nadolig am wythnos. Byddwn yn ei pherfformio yn Eglwys San Sior nos Mercher nesaf.

Lois