Blog Ysgol yr Eifl

Saturday, September 30, 2006

Rhoddion gan Glwb y Twr a Chapel Bethania

Daeth dau rodd i law yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Cafwyd £100 gan Gapel Bethania. Yn anffodus bydd y capel yn cau yn ystod y misoedd nesaf.

Cafwyd hefyd £67 gan Glwb y Twr. Roeddynt wedi codi'r pres mewn barbiciw yn ystod yr haf.

Diolch yn fawr iawn i'r capel ac i'r clwb.

CL

Friday, September 29, 2006

Mynd i Barc Padarn a rhedeg o gwmpas y cowt

Dydd Iau roedd pawb yn yr ysgol yn rhedeg o gwmpas y trac. ‘Rydan ni’n gwneud hyn pob bore dydd Gwener pan mae’r tywydd yn braf. I redeg 2km mae’n rhaid i ni redeg o gwmpas y trac 20 o weithiau. Mae o’n hwyl ac yn ffordd dda o gadw’n ffit – ond mae o hefyd yn waith caled.




Prynhawn dydd Iau aeth plant bl 3,4,5 a 6 i Parc Padarn yn Llanberis er mwyn gweld sut oedd pobl wedi newid lle oedd wedi cael ei ddifetha gan ddiwydiant yn lle del unwaith eto. Cawsom weld pob math o bethau, ac ar y diwedd cawsom weld ffilm.



Roedd tren, lle deifio, llwybrau i fynd am dro, cwch, amgueddfa chwarel, canws, amgueddfa ysbyty a phob math o bethau eraill yno.



Wiliam a Liam

Friday, September 15, 2006

Enlli ac wythnos wlyb

Yn yr wythnos yma daeth Enlli i’r dosbarth i roi help i ni gyda Saesneg a mathemateg ac i ddarllen efo ni. Rydan ni wedi cael hwyl.



Enlli

Mae hi wedi bwrw llawer yn ystod yr wythnos, felly doedd yna ddim Addysg Gorfforol dydd Iau na dydd Mawrth yn anffodus, ond fe gawsom fynd i nofio ddydd Gwener.

Wiliam Thomas a Rhiannon Thomas

Friday, September 08, 2006

Wythnos gyntaf yn ol yn yr ysgol

Ddydd Mawrth daeth pawb yn ol i’r ysgol ar ol y gwyliau haf. Mae yna llawer mwy na 8 yn dosbarth Mr Larsen nawr, ar ddydd Mawrth, Iau a Gwener mae yna 28 o blant - gwahaniath mawr!! Ac mae 19 yn y bore hefyd.

Dim ond un oedd yn cychwyn eleni - merch fach a’i henw yw Chloe - mae hi yn nosbarth Miss Griffith. Rydan ni yn mynd i’r Ganolfan Hamdden pob dydd Gwener y flwyddyn yma, ac mi fyddwn yn rhedeg y filltir pob dydd Iau, ond ar dir yr Ysgol ac nid yn y Ganolfan.



Dydd Mercher mi gafodd rhai plant swyddi newydd. Y genod ffrwyddau newydd yw Elain a Lauren, y genod cinio yw Rhiannon ac Elin, hogia’r meinciau yw Haydn a Chris a hogiau’r llefrith yw Wiliam a Dafydd. Mae swyddi eraill hefyd.

Heddiw aethom i’r Ganolfan Hamdden i nofio, gwneud gymasteg a dawnsio.

Haydn ac Elain