Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, October 12, 2008

Clwb Gwau ac ymweliad yr heddlu

Dydd Llun aeth plant bl.6 i wau yn Nghapel Maes Neuadd 2 tan 3 a rydym ni wrthi yn gwau sgarff.

Ar ddydd Mawrth daeth yr heddlu a cawsom wneud pob math o bethau gan gynnwys chwarae gem ar y cyfriadur lle’r oeddech yn gorfod trio dreifio yn ofalus. Cawsom hefyd weld yr hofrenydd, motobeic a char heddlu.

Pan laniodd yr hofrenydd daeth pobl allan i'w gerddi er mwyn gweld yn iawn, ac roedd y gwynt yn lluchio dail i pob man.

Dangosodd yr heddlu sut oedden nhw yn mesur cyflymder ceir a cawsom wybod pob dim am fforensics.

Daeth plant o Ysgol Llanaelhaearn ac o Ysgol Llangybi yma hefyd ac roedd tua 150 o blant yma i gyd. Cafodd pawb hwyl fawr yn dysgu am waith yr heddlu.










Lois a Leah

Monday, October 06, 2008

Gwasanaeth gan Llinos

Yr wythnos diwethaf paratodd Llinos wasanaeth am datws. Roedd Adam a Non yn perfformio drama bach am datws. Roedd yn dangos gwahonol luniau yn dangos os na fyddai Walter yn cael cnwd da byddai yn llwgu. Cawsom hefyd weld y pryfaid genwair yn y pirdd yn gadw y planhigion yn iach.

Leah, Non a Lois