Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, April 09, 2006

Dathlu'r Pasg

Dydd Iau roeddem yn dathlu’r Pasg, ac i ddathlu cawsom ddiwrnod arbennig.

Cafwyd cystadleuaeth gwneud hetiau Pasg. Roedd yna wobr i bob blwydddyn, sef wy Pasg.. Yr enillwyr oedd Megan (bl 6), Gwenno (bl 2), Leah (bl 3), Elliw (bl D), Osian (bl 1), Caitlin (bl M), Wiliam (bl 4) a Stewart (bl 5). Mrs June Baglin oedd yn dewis pa gapiau oedd y gorau.



Enillwyr y gystadleuaeth hetiau Pasg.

Daeth y Parchedig Angharad Roberts i roi gwasanaeth i ni am y Pasg. Amser y siop ffrwythau cawsom siocled poeth efo’n ffrwythau a roeddem yn cael rhoi’r ffrwythau i mewn i’r siocled. Y ffrwythau oedd afalau, mefys, bananas a grawnwin.



Y Parch Angharad Roberts.

Amser chwarae cawsom helfa wy – roedd wyau siocled gydag enw pawb yn yr ysgol arnynt wedi eu cuddio y tu allan i’r ysgol.



Llun o Stewart wedi iddo ddod o hyd i'w wy.

Cafodd pawb hefyd gyfle i wneud basged Pasg, ac i baentio wy.



Rhai o'r wyau a gafodd eu paentio.

Hefyd cafodd Michela a Leah dystysgrif arbennig am wneud yn dda iawn yn y cynllun rhedeg. Mae nhw wedi rhedeg mwy na neb arall.



Llun o Leah gyda'i thystysgrif.

Alun Meirion

Gwasanaeth Dosbarth y Babanod

Ddydd Gwener diwethaf roedd plant dosbarth y babanod yn cynnal gwasanaeth ar gyfer eu rhieni. Gwasanaeth am liwiau oedd o, ac roedd o yn ardderchog.

Alun Meirion