Dechrau tymor newydd
Ddydd Mawrth aeth bl 1 2 3 4 5 6 i’r Pantomeim ym Mhenygroes. Ei enw oedd y teitl oedd Sundarddela. Roedd y pantomeim yn hwyr oherwydd bod eira cyn ‘Dolig.
Heddiw daeth Mark i wneud sioe Paid Cyffwrdd Dweud. Roedd ganddo fo pob math o driciau, gan gynnwys tric da efo cwningen. Roedd o yn ein dysgu ni am fod yn ofalus efo cyffuriau.
Mae blwyddyn 3, 4, 5, 6 yn gwneud dawns y Matador efo Mr Larsen y tymor yma. Bydd Moto Coch yn 100 oed y flwyddyn nesaf ac rydym ni wedi dechrau gwneud gwaith am hynny. Rydym hefyd wedi dechrau gwneud gwaith am y gofod.
Rydym yn gwneud gwaith ar wledydd y Byd efo Mrs Harris y tymor hwn. Hefyd mae Mrs Healy yn cael ei phenblwydd heddiw – ond ‘does yna neb yn dweud wrthym faint oed ydi hi yn anffodus.
Rhys ac Ifan
0 Comments:
Post a Comment
<< Home