Blog Ysgol yr Eifl

Friday, September 03, 2010

Wythnos gyntaf yn ol yn yr ysgol

Dydd Iau oedd ein diwrnod cyntaf yn ol yn yr ysgol ar ol gwyliau yr haf.

Yn anffodus mae Lowri wedi symud i fyw i Bwllheli sydd yn golygu ei bod hi wedi symud i Ysgol Cymerau.

Tywysogion Cymru ydi ein thema y tymor hwn a cawsom wneud gwaith am furlun o Llywelyn ein Llyw olaf yn Llanelwedd – sydd yn dangos lle cafodd ei ladd. Cawsom hefyd gem o griced yn y prynhawn.

Hefyd mae yna nifer o blant newydd yn yr Ysgol – Megan, Deio, Caio, Cai, Owain, Osian, Erin, a Harri.



Ac ar ol amser chwarae cawsom ni gyngor ysgol. A chawsom bledleisio i weld pwy oedd yn cael swyddi yn yr ysgol.

Y cadeirydd ydi Steffan Toplis a’r is gadeirydd ydi Owain Hedd. Yr ysgrifennydd ydi Elliw Haf Lewis a’r is ysgrifennydd ydi Geraint Davies.

Mae Llinos wedi bod yn brysur yn ail wneud y llyfrgell - ac mae hi'n edrych yn fendigedig erbyn rwan. Dyma ambell i lun i chi.



Elan a Charlotte

0 Comments:

Post a Comment

<< Home