Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, January 31, 2010

Wythnos Brysur

Dydd Llun cawsom ddysgu am Santes Dwynwen yn yr ysgol ac mi gawsom chwarae Sion a Sian. Mi gawsom gyfle hefyd ar y ffowntain siocled. Daeth criw o’r llyfrgell i ddarllen soriau i ni hefyd. Roeddynt yn ddigri iawn.

Dydd Mawrth gwnaethom waith am Antartica a hydoddi halen.

Dydd Mercher roedd Mrs Harris hefo ni yn gwneud gwaith am gapeli ac eglwysi. Y prynhawn oedd y tro diwethaf i ni ymarfer ar gyfer y bore coffi. Doedden ni i gyd ddim wedi sylweddoli bod amser yn fflio a’i bod yn amser am bore coffi.

Ddydd Iau cafwyd y bore coffi ac roedd pawb yn nerfys. Roedd Gwenno Natalie Elliw ac Elan wedi gwneud cardiau a’u gwerthu. Diolch i’w rhieni nhw ac i Llinos. Mae y cardiau ar werth pan fydd Meinir Gwilym yn canu dydd Sadwrn. Mi fydd clwb plant yn gwneud cardiau wythnos nesa i hel pres. Ac mae clwb hwyl a sbri yn mynd i wneud yr un peth hefyd. Mae plant dosbarth Miss Griffiths wedi rhoi bwyd allan i’r adar. Ac fe wnaethant fwyd adar i’r plant i gyd fynd adra hefo nhw. Am adar oedd y cyflwyniad bore coffi.hefyd.


Ifan ac Eln

0 Comments:

Post a Comment

<< Home