Blog Ysgol yr Eifl

Friday, September 25, 2009

Ein hwythnos

Dyma ychydig o hanes ein hwythnos i chi:

Dydd Llyn mae plant bl 3 4 a rhai o blwyddyn 5 a 6 yn chwarae recorder gyda Miss Griffis. Bob diwrnod heb law Dydd Sul ac Dydd Sadwrn mae Gwenno ac Natalie yn helpu edrych ar ol plant bach. .Dydd Mercher mae rhai o blant bl 5 a 6 yn cael eu gwersi recorder. Ddydd Iau mae rhai o blant bl 3 4 5 a 6 yn cael gwersi ffliwt, corn a chlarinet.

Ar ddydd Iau rydym yn rhedeg ac yn chwarae rygbi. Maeeisiau bod yn ofalus - mae Gwenno a Catrin wedi baglu yn yr rygbi yn barod. Mi’r rydan ni hefyd yn chwarae gemau cydweithredu ar ddydd Iau.

Mae yna fore coffi yn Maesneuadd Ddydd Iau, a rydan ni wedi dechrau mynd tros ein darnau. Dydd Gwener rydym yn mynd i’r Ganolfan Hamdden ym Mhwllheli i wneud ymarfer corff. Roeddem ni’n dwy - Lowri ac Elan helpu efo cinio heddiw. I cinio cawsom pitsa a sglodion ac i bwdin cawsom hufen ia a jeli. Bob amser ffrwytha mae Osian a Ifan yn helpu Laura baratoi pethau ac mae Elan a Sion yn ffonio dyn o’r enw Mr Robertar ddyddiau Gwener i archebu mwy o ffrwythau. .

Elan ac Lowri

1 Comments:

At 4:03 PM, Blogger Bugatti9999 said...

Dw i'n anghysegriedig ac yn defmyddio cymraeg furfiol mewn gwaith ac yn defnyddio iaith anffurfiol safon isel wrth siarad.

 

Post a Comment

<< Home