Siom o fethu mynd i Lyn Llydaw
Blog
(Wythnos Diwethaf)
Dydd Llun daeth athrawes Saesneg o Ysgol Glan y Môr i weld Bl.6. Enw’r athrawes oedd Delyth Jones, cawsom wers ddiddorol ganddi.
Hefyd roedd yna ffair lyfrau yn yr ysgol wythnos yma ac roedd pob math o lyfrau ar werth. Roedd llawer o blant wedi prynu llyfrau. Dydd Iau aethom i fore coffi i berfformio drama fach am ferched yn Senegal oherwydd ei bod hi yn wythnos Cymorth Cristnogol. Ddydd Gwener aethom i nofio hefo’r Ysgol.
(Wythnos yma)
Dydd Llun roeddem i fod i fynd am dro i Llyn Llydaw, ond gan nad oedd y tywydd yn caniatau doeddem ni ddim yn gallu mynd. Rydym wedi bod yn ymarfer criced trwy’r wythnos yma oherwydd ein bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home