Blog Ysgol yr Eifl

Friday, April 03, 2009

Wythnos olaf y tymor

Dydd Llun aeth plant Bl. 3,4,5 a 6 i Coleg y Bala i ddysgu am y Pasg. Cawsom gychwyn o'r ysgol am 9:00 ac roeddem yna erbyn 10. Roedd rhai o’r plant yn cael gwisgo fyny fel y Disgyblion ac Mrs Harris oedd Jwdas Iscariot. Cawsom wneud pob math o bethau eraill gan gynwys bwyta ychydig o'r swper olaf, a chael sgwrs efo'r asyn. Cyn gadael cawsom gacennau.

Dydd Mercher aeth plant Bl.6 i Ysgol Glan y Mor am hanner diwrnod. Cawsant wers Mathemateg a Gwyddoniaeth. Yn ol yn yr ysgol yn Nhrefor roedd plant Bl. 1,2,3,4 a 5 wedi gwneud cacenau siocled ar gyfer y bore coffi.






Dydd Iau roedd Bl. 2,3,4,5 a 6 yn mynd i Maes Neuadd i gynnal y bore coffi. Ar ol i’r plant orffen cawsom ychydig o'r cacennau.





Dydd Gwener roedd hi yn diwrnod diwethaf y tymor ac roeddem yn brysyr iawn yn gorffen ein gwaith.


Dydd Llun wythnos diwethaf daeth Marc i’r Ysgol efo'i sioe Paid Cyffwrdd Dweud . Gwnaeth Marc lawer o hyd a lledrith ac roedd yna un pryd oedd Non yn eistedd ar gadair ac roedd Marc efo cwpan o ddwr uwch ei phen a thynodd ei law oddi ar y cwpan ac naeth y dwr ddim disgin ar ben Non.



Roedd Gemma yma am wythnos o brofiad gwaith hefyd.

Leah a Gwenno
Lluniau i ddilyn

0 Comments:

Post a Comment

<< Home