Sunday, July 05, 2009
Wednesday, June 17, 2009
Cae'r Gors a thynnu lluniau
Tymor Newydd
Dydd Llun cychwyn tymor newydd ar ol cael wythnos o wylia.
Dydd Mawrth roedd Blwyddyn 6 yn mynd ar bys ysgol i ymweld a Ysgol Glan y Mor am y diwrnod.Ar y Dydd Iau cawsom cinio yn fuan oherwydd yn y prynhawn daeth dynas i tynnu llynia. Daeth llawer o bobl gyda ei plant. Daeth athrawes Gymraeg o Ysgol Glan y Mor i wneud gwaith gyda blwyddyn 6.
(Wythnos Diwethaf)
Dydd Llun roeddem yn ymarfer ar gyfer cystadleuaeth criced.
Dydd Mawrth roedd y diwrnod cystadleuaeth criced ym Mhwllheli. Cawsom gychwyn o’r Ysgol 9.30. Cawsom chwarae 3 gem gan ennill 1..
Dydd Mercher aeth y Ysgol i gyd i ty Kate Roberts yn Cae’r Gors, Rhostryfan. Roeddym yn son am bethau hen a phethau trist. Ddydd Iau daeth y fan llyfrgell i’r ysgol a chawson newid ein llyfrau darllen.
Jamie
Friday, May 22, 2009
Siom o fethu mynd i Lyn Llydaw
Blog
(Wythnos Diwethaf)
Dydd Llun daeth athrawes Saesneg o Ysgol Glan y Môr i weld Bl.6. Enw’r athrawes oedd Delyth Jones, cawsom wers ddiddorol ganddi.
Hefyd roedd yna ffair lyfrau yn yr ysgol wythnos yma ac roedd pob math o lyfrau ar werth. Roedd llawer o blant wedi prynu llyfrau. Dydd Iau aethom i fore coffi i berfformio drama fach am ferched yn Senegal oherwydd ei bod hi yn wythnos Cymorth Cristnogol. Ddydd Gwener aethom i nofio hefo’r Ysgol.
(Wythnos yma)
Dydd Llun roeddem i fod i fynd am dro i Llyn Llydaw, ond gan nad oedd y tywydd yn caniatau doeddem ni ddim yn gallu mynd. Rydym wedi bod yn ymarfer criced trwy’r wythnos yma oherwydd ein bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth.
Sunday, April 26, 2009
Taith i Bentref Peryglon
Dydd Llun : Diwrnod cyntaf yr tymor ac roedd pawb yn ol yn barod am dymor arall. Roedd Kirsty Hughes efo ni am wythnos.
Dydd Mawrth : Cawsom fynd i Brestatyn i ymweld a Phentref Peryglon gyda Ysgol Rhostryfan. Mae’n lle diddorol iawn efo siop, ty, gardd, stryd, lle chwarae, lan mor a mynyddoedd. Cawsom wybod am bob dim sydd yn beryglys. Daethom adref erbyn 3:50.
Dydd Mercher: Roedd Laura yn cael ei phenblwydd yn 18 a gwnaeth pawb gerdyn iddi.
Dydd Iau: Cafodd Jamie ddamwain ar drampolin Geraint ac mae wedi torri ei fraich yn anffodus.
Dydd Gwener: Aeth paw bi nofio i Bwllheli am y tro cyntaf eleni.
Jamie ac Adam
Friday, April 03, 2009
Wythnos olaf y tymor
Dydd Llun aeth plant Bl. 3,4,5 a 6 i Coleg y Bala i ddysgu am y Pasg. Cawsom gychwyn o'r ysgol am 9:00 ac roeddem yna erbyn 10. Roedd rhai o’r plant yn cael gwisgo fyny fel y Disgyblion ac Mrs Harris oedd Jwdas Iscariot. Cawsom wneud pob math o bethau eraill gan gynwys bwyta ychydig o'r swper olaf, a chael sgwrs efo'r asyn. Cyn gadael cawsom gacennau.
Dydd Mercher aeth plant Bl.6 i Ysgol Glan y Mor am hanner diwrnod. Cawsant wers Mathemateg a Gwyddoniaeth. Yn ol yn yr ysgol yn Nhrefor roedd plant Bl. 1,2,3,4 a 5 wedi gwneud cacenau siocled ar gyfer y bore coffi.
Dydd Iau roedd Bl. 2,3,4,5 a 6 yn mynd i Maes Neuadd i gynnal y bore coffi. Ar ol i’r plant orffen cawsom ychydig o'r cacennau.
Dydd Gwener roedd hi yn diwrnod diwethaf y tymor ac roeddem yn brysyr iawn yn gorffen ein gwaith.
Dydd Llun wythnos diwethaf daeth Marc i’r Ysgol efo'i sioe Paid Cyffwrdd Dweud . Gwnaeth Marc lawer o hyd a lledrith ac roedd yna un pryd oedd Non yn eistedd ar gadair ac roedd Marc efo cwpan o ddwr uwch ei phen a thynodd ei law oddi ar y cwpan ac naeth y dwr ddim disgin ar ben Non.
Roedd Gemma yma am wythnos o brofiad gwaith hefyd.
Leah a Gwenno
Lluniau i ddilyn
Monday, March 09, 2009
Pethefnos brysur
Dydd Mawrth roedd hi yn ddiwrnod crempog cawsom ni i gyd wneud y crempog efo Miss Griffiths a Mrs Harris. Roedd y crempog yn fendigedig. Roedd yna ddewis o Jam, Siocled, Siwgwr, Surap, a Menyn a lemon Roedd pawb wedi mwynhau ei grempog yn ofnadwy.
Ddydd Gwener aeth 4 o blant o flwyddyn 6 i Galeri yn Caernarfon hefo Llinos Roberts ein gweithiwr cymynedol Cristnogol yn Nhrefor. Y 4 aeth oedd Adam, Lois, Leah a Non. Roedd Ysgol Llanaelhearn yn dod hefo ni hefyd ar y bws. Pam gyrheddon cawsom wneud offeryn cerdd a dyma yna ddyn o Sri Lanka yn dod i siarad hefo ni. Yna dyma ni’n trio torri record byd am y mwyaf sydd yn bwyta banana.

Dydd Llun roeddem yn dathlu Dydd Gwyl Dewi wrth wisgo pethau coch a pethau cymru. Amser ffrwythau gaethom deisen gri gan Anti Eirian. Naethom ddawnsio gwerin ac dawnsio a canu caneuon gyflym yn y jambori. Naethom ni liwio llun o Dewi Sant ac naeth na rei cynllunio llun ein hun o Dewi Sant.
Ac Ddydd Iau perfformiodd blwyddyn 3,4,5 a 6 yn y bore coffi yn y capel. Buom yn ymarfer drwy yr wythnos. Ein thema oedd diwrnod y llyfr ac roedd pawb efo eu llyfr gorau. Roedd Adam, Non, Lois ac Ben yn siarad am ei llyfr gorau.
Adam, Leah, Lois a Non
Tuesday, February 10, 2009
Mynd am dro yn yr eira, y bore coffi a'r ci tywys
Dydd Llun roedd plant Bl.3,4,5 a 6 yn cerdded o Faes Caernarfon i Y Galeri ac roeddan ni wedi cael balwns efo hiliwm i mewn ynddynt. Cymryd rhan mewn ymgyrch diogelwch ffyrdd oeddem ni, ac roedd yna eira ym mhob man. Cawsom fisged a diod yn y Galeri ar y diwedd.
Wythnos diwethaf ar y Ddydd Iau aethom i festri Maes Neuadd i’r bore coffi i canu ac adrodd. Ar ol mynd i’r ysgol roedd pawb yn cael ffondw siocled a cawsom ginio a phwdin arbennig.
Yr wythnos yma daeth yna gi tywys i’r ysgol efo ei berchenog, John sydd yn ddall. Rydym ni yn hel pres i cwn tywys ar hyn o bryd. Roedd Guto yn adnabod John, a fo wnaeth ofyn iddo os byddai yn dod i ein hysgol.
Leah a Geraint
