Blog Ysgol yr Eifl

Friday, July 21, 2006

Wythnos ddiwethaf y flwyddyn ysgol

Dydd Mawrth aeth yr ysgol i gyd am dro i lan y mor, ond erbyn cyrraedd roedd yna ogla yna, felly roedd rhaid i ni i gyd i cae swings i cael picnic.



Dydd Gwener, yd’r diwrnod diwethaf i blant blwyddyn 6. Mae pawb yn arwyddo ein crys polo ni. Rydym wei gorffen ein gwaith i gyd ac rydym yn cael edrych ar fideo o’r mabolgampau a chwarae gemau cyfrifiadur.






Yn gynharach yn yr wythnos cafodd Guto newyddion da – fo sydd wedi ennill cystadleuaeth gan y Gwasanaeth Masnachol i ddewis tim gorau ar gyfer cwpan y byd.



Ar ddiwedd y dydd cafodd Miss Griffith flodau ac anrheg gan blant yr Urdd i ddiolch iddi am ei gwaith caled efo nhw trwy'r flwyddyn.

Dyma lun ohonom ni ar ein diwrnod diwethaf.




Brodie, Alun, Hywel a Megan.

Friday, July 14, 2006

Wythnos brysur iawn.

Ddydd Mawrth aeth plant blwyddyn 6 mynd i Ysgol Glan y Mor am y tro olaf cyn eu bod nhw yn mynd yna go iawn ym mis Medi. Cawsom ddiwrnod iawn yno, gan gael 6 gwers, ac amser egwyl ac amser cinio efo’r plant mawr.

Ddydd Mercher aeth plant blwyddyn 3,4,5 a 6 i Ysgol Cymerau i chwarae pel droed a rownderi yn erbyn ysgolion eraill y cylch. Yn anffodus wnaethom ni ddim ennill. Cymerau enillodd y pel droed a’r rownderi - fel arfer.





Ddydd Iau aeth yr ysgol i gyd i Erddig am wibdaith yr haf. Roedd rhaid i bawb wisgo fel gweision o’r hen oes. Roedd rhaid i ni lanhau esgidiau reidwyr ceffylau, a gwneud llawer o dasgau eraill. Roedd Chris, William a fi yn gorfod glanhau sadl ceffyl. Roeddem ni hefyd yn chwarae gemau hen ffasiwn fel tafu cylch, chwarae top a chwarae ceffyl.
















Ddydd Gwener roedd plant bl 6 yn cael eu cyfarfod olaf yn yr ysgol gynradd, ac roedd plant bl D,1,2 yn cynnal gwasanaeth i’r rhieni hefyd. Cawsom lyfr ar hanes Ysgol yr Eifl a geiriadur i gofio ein dyddiau yn yr ysgol. Cafodd Anti Ann, sydd wedi bod yn gweithio yma ers yr hydref flodau hefyd am ei bod hi yn ein gadael.




Hywel ac Alun

Tuesday, July 11, 2006

Mabolgampau'r Ysgol, Mabolgampau'r Dalgylch a Diwrnod yn Nant

Roeddym yn brysur iawn yr wythnos yma. Cawsom fagolgampau’r ysgol nos Fawrth, ac roedd hynny’n hwyl fawr. Mae pedwar ty, Elyrnion, Hendre, Yr Eifl a Ceiri. Cawsom pob math o rasus gan gynnwys ras beics araf, ras cylchoedd, ras rhwystrau ras rowlio a chystadleuaeth sgorio gol. Dydan ni ddim yn gwybod pa dy sydd wedi ennill hyd wythnos nesaf.

Ddydd Iau aethom i Ysgol Cymerau magolgampau y dalgylch. Cawsom hwyl yma hefyd. Daeth Dafydd yn gyntaf yn y ras gyflym a daeth Chris yn drydydd.



Dydd Gwener aethom i Nant Gwrtheyrn wneud gwahanol weithgareddau. Cafodd y plant mawr wneud cyfrifiannu a mynd am dro i’r Graig Ddu trwy’r coed. Yn y prynhawn cawsant helfa drysor. Chwaraeodd y plant bach nadroedd ac ysgolion a gem parasiwt cyn mynd am dro i’r goedwid. Yn y prynhawn cawsant chwarae yn y parc.



Am dro yn y coed.



Cyfeiriannu



Chwarae parasiwt



Helfa Drysor



Nadroedd ac ysgolion



Chwarae yn y parc
Haydn a Chris