Blog Ysgol yr Eifl

Wednesday, July 25, 2007

Lluniau wythnos olaf

Does yna ddim blog yr wythnos yma - ond wele un neu ddau o luniau o'r trip i Henblas, sesiwn goginio a sesiwn dynnu lluniau gyda Dewi Gwyn.

CL

















Wednesday, July 18, 2007

Mabolgampau'r Ysgol

Dydd Llyn a Dydd Mawrth roeddem wedi bod yn ymarfer am y mabalgampau. Erbyn chwech o’r gloch cawsom y mabolgapau go iawn.

Ceiri ddaeth yn gyntaf Elernion yn ail, Eifl yn drydydd a Hendra yn bedwerydd. Roeddym a ni yn lwcys iawn oherydd roedd y tywydd mor bra far ol haf mor wlyb. Gwnaeth y timau faneri ar gyfer y mabolgampau. Cafodd pawb hwyl fawr.

Elin

Codwyd £280.50 tuag at y Gymdeithas Rhieni a £50 tuag at apel Elan. Diolch i bawb.

CL






Thursday, July 12, 2007

Mwy o law, ond digon o hwyl hefyd

Dydd Llun roeddem ni yn coginio. Gwnaeth plant bach salad ffrwythau, gwnaeth bl 3 a 4 smwddi a cebabs wnaeth y plant mawr.

Yn y prynhawn cawsom fwyta y bwyd a hefyd cawsom flasu ffrwythau ecstotic.






Dydd Mawrth aethom i Ganolfan Uwchgwyrfai i weld arddfangosfa am y môr. Hefyd aethom i Eglwys Beuno Sant. Roedd y ddau le yn ddiddorol.



Dydd Mecher roeddem i fod i fynd i Ysgol Cymerau i fabolgampau’r dalgylch, ond roedd hi yn bwrw glaw ac roedd hyn wedi difethau pob dim. A dweud y gwir roedd hi wedi bwrw glaw trwy wythnos.

Dydd Gwener aethom i nofio yn y bore ac yn y prynhawn daeth Bryn i siarad efo ni am bryfaid a chawsom fynd allan i chwilio am rai. Cyn mynd cafodd pawb anrhegion, sef pensal, poster a chwyddwydr.







Non