Blog Ysgol yr Eifl

Thursday, July 12, 2007

Mwy o law, ond digon o hwyl hefyd

Dydd Llun roeddem ni yn coginio. Gwnaeth plant bach salad ffrwythau, gwnaeth bl 3 a 4 smwddi a cebabs wnaeth y plant mawr.

Yn y prynhawn cawsom fwyta y bwyd a hefyd cawsom flasu ffrwythau ecstotic.






Dydd Mawrth aethom i Ganolfan Uwchgwyrfai i weld arddfangosfa am y môr. Hefyd aethom i Eglwys Beuno Sant. Roedd y ddau le yn ddiddorol.



Dydd Mecher roeddem i fod i fynd i Ysgol Cymerau i fabolgampau’r dalgylch, ond roedd hi yn bwrw glaw ac roedd hyn wedi difethau pob dim. A dweud y gwir roedd hi wedi bwrw glaw trwy wythnos.

Dydd Gwener aethom i nofio yn y bore ac yn y prynhawn daeth Bryn i siarad efo ni am bryfaid a chawsom fynd allan i chwilio am rai. Cyn mynd cafodd pawb anrhegion, sef pensal, poster a chwyddwydr.







Non

0 Comments:

Post a Comment

<< Home