Arddangosfa tswnami, ymweld a Glan y Mor a genod profiad gwaith
Yr wythnos yma oedd yr un cyntaf yn ol yn yr ysgol ar ol dwy wythnos o wyliau braf. Roedd tair merch o Ysgol Glan y Mor yma am wythnos gyfan ar brofiad gwaith. Kelly,Nia a Bethan oedden nhw.
Nia a Bethan - roedd Kelly wedi rhedeg i guddio
Ar ol amser chwarae ddydd Llun aethom am dro i Gapel Maes y Neuadd i weld arddangosfa am y tswnami, cawsom oren, jaffa cakes a weffr pinc gan Llinos Roberts.
Dydd Iau aeth plant bl 6 i Ysgol Glan y Mor am y tro cyntaf. Roedd o yn gret. Cawsom fynd i chwarae rowdars a gwnaethom waith daearyddiaeth efo Mr Pleming. Cawsom sgytlaeth amser egwyl ac aethom allan i chwarae. Pan aethom allan roedd pawb yn edrych arnom yn syn. Ond wedyn gwelsom blant oeddem yn nabod – diolch byth.
Dydd Gwener aethom i’r Ganolfan Hamdden i wneud gymnasteg a ballu.Ar ol cyrraedd yr ysgol roeddem i gyd yn darllen fel rhan o’r Cynllun Miliwn o Eiriau. Roedd y dsbarth mor dawel.
Elain a Sioned
0 Comments:
Post a Comment
<< Home