Dim dwr a gwynt cryf
Ar ddydd Llun ‘doedd na ddim ysgol am bod roedd peipen ddwr wedi cael ei byrstio yn Llanaelhaearn ‘doedd yna ddim dwr o gwbl yn y toiledau. Cafodd pawb eu hel adref fel roeddynt yn cyrraedd yn y bore.
Ar ddydd Mercher roedd blwyddyn 5 a 6 yn gwneud teils allan o glai yn nosbarth Mrs Harris ac yn gwneud patrwm heb godi pensel oddi wrth y papur. Cawsom hwyl fawr yn
gwneud yr ddau beth.
Ar ddydd Iau doedd dim rhaid i ni redeg am ei bod mor wyntog. Roedd y gwynt yn ofnadwy o gryf, a chafodd yna neb fynd allan i chwarae trwy’r dydd
Molly a Elizabeth
0 Comments:
Post a Comment
<< Home