Blog Ysgol yr Eifl

Monday, November 06, 2006

'Sgwennu carolau a'r gwasanaeth Diolchgarwch

Ar ddydd Mercher, Hydref 18 daeth Llinos Roberts i roi gwasanaeth i ni am bobl di gartref. Y rheswm ei bod wedi gwneud hyn yw oherwydd ein bod am gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu carol sy’n cael ei drefnu gan Shelter Cymru a’r Urdd. Bydd y Prifardd Iwan Llwyd yn rhoi help i ni efo’r gwaith yma.




Dydd Llyn, Hydref 23, ac wedyn ar ddydd Mawrth daeth Iwan Llwyd i’r ysgol i ysgrifennu carolau Nadolig efo ni. Cafodd blwyddyn 3 a 4 gyfansoddi un carol, a chafodd bl 5 a 6 gyfansoddi un arall. Rydan ni yn meddwl eu bod nhw yn ofnadwy o dda. Beth ydych chi yn ei feddwl?


Iwan Llwyd

Nadolig Ddoe a Heddiw

Roedd hi’n dechrau t’wllu’n gynnar
a nosweithiau hir o’i blaen,
Y ddau yn oer ac ofnys
a dim un golau mlaen:

Cyt: Curo, curo ar y drws,
Dim un ateb eto,
Curo,curo ar y drws,
a gawn nhw lety heno?

Ond yng ngolau’r seren ddisglair
mae’ na un lle prin ar ol:
“fe gewch chi gysgu yn y stabal
Mae’ na breseb,gwellt a stol.”


Ac fe anwyd baban perffaith
rhyw dro drwy’r oriau hir,
ond fe glywodd yr hen Herod
bod brenin newydd yn y tir:

Rhaid cychwyn ar daith arall
i ddinas arall, bell
a gobeithio, yn fan honno
y cawn nhw fywyd gwell.

Curo,curo ar y drws,
Dim un ateb eto,
Curo, curo ar y drws,
a gawn nhw lety heno?

Dosbarth 5+6
Ysgol yr Eifl ac Iwan Llwyd

Chwilio am Lety

Roedd hi’n oer y ‘Dolig cynta
a’r ddau yn mynd trwy’r eira
i’r ddinas fawr:
Wedi teithio, wedi blino,
yn gobeithio cael lle heno
ar rhyw lawr:
Cnocio drysa’, canu clycha’
holi eto’n y ty drws nesa’
am wely a bwyd:
Ond does dim llety yma’n unman,
fe fydd rhaid cael gwely allan
ar y pafin llwyd:
Ond drwy’r nos daeth llais caredig
a’u gwadd i’w satabal clud
ac yno daeth baban newydd
i mewn i’r byd.
Ac i’r stabal daeth angylion
a doethion a’u anrhegion
gwerthfawr, drud,
a’r bugeiliaid ac oen i’r baban
sy yno wrth ei hunan
yn y crud:
Ond fe glywodd yr hen Herod
am hanes y rhyfeddod
yn y gwair:
A gyrru’i filwyr yn haid greulon,
“Ewch oddi yma” meddai’r angylion
wrth Joseff a Mair:
Felly dyna ddechrau ar daith eto
a’r seren ddisglair yn ei goleuo
gam wrth gam
ac mae’r baban bach yn ddiogel
yng ngofal tawel a dirgel
ei dad a’i fam.

Bl 3 a 4 Ysgol yr Eifl ac Iwan Llwyd


Brynhawn Llun a dydd Mawrth aethom i ymarfer y gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Bethania. Y rheswm bod y gwasanaeth ym Methania eleni yw am ei fod am gael ei gau ym mis Rhagfyr, ac mae’n debyg y bydd yn cael ei droi yn dy i rhywun.

Dydd Mercher daeth yn amser y gwasanaeth a cawsom berfformio o flaen y bobl. Er bod oeddem yn nerfys iawn, roedd pawb yn brolio ni!



Dydd Gwener aethom i Bwllheli fel arfer i nofio – ond y troi hwn cawsom wneud ein bathodynnau nofio - rhai 20m a 25m a rhai 50m rhai 100m a rhai 200m. Pasiodd Haydn y 200metr a rwan mae’n mynd am y 400m.

Haydn, Lauren ac Elain

0 Comments:

Post a Comment

<< Home