P'nawn Divali, Cymdeithas y Pridd a phlant yn mynd i Ganada
Dydd Llun daeth Delyth Phillips o Gymdeithas y Pridd i’n dysgu ni am fwydydd iach ac am sut i drin y tir yn dda trwy’r bore.
Yn y prynhawn cawsom brynhawn Diwali efo Mrs Harris. Cawsom gyri i ginio, fel meant yn ei gael yn India. Wedyn cawsom wneud fferins Diwali a gwneud llestri dan canhwyllau a hefyd gwneud lluniau o ddathliadau Divali. Cawsom ddigon o hwyl a chawsom ddysgu pethau diddorol hefyd.
Ddydd Iau roedd hogyn bach o’r enw Calum a hogan llai hyd yn oed o’r enw Cloe yn ein gadael am Canada. Cawsom gyfarfod i ffarwelio efo nhw a cawsant anrheg cerdyn a oedd wedi ei arwyddo gan bawb.
Wiliam a Luke
0 Comments:
Post a Comment
<< Home