Blog Ysgol yr Eifl

Friday, July 14, 2006

Wythnos brysur iawn.

Ddydd Mawrth aeth plant blwyddyn 6 mynd i Ysgol Glan y Mor am y tro olaf cyn eu bod nhw yn mynd yna go iawn ym mis Medi. Cawsom ddiwrnod iawn yno, gan gael 6 gwers, ac amser egwyl ac amser cinio efo’r plant mawr.

Ddydd Mercher aeth plant blwyddyn 3,4,5 a 6 i Ysgol Cymerau i chwarae pel droed a rownderi yn erbyn ysgolion eraill y cylch. Yn anffodus wnaethom ni ddim ennill. Cymerau enillodd y pel droed a’r rownderi - fel arfer.





Ddydd Iau aeth yr ysgol i gyd i Erddig am wibdaith yr haf. Roedd rhaid i bawb wisgo fel gweision o’r hen oes. Roedd rhaid i ni lanhau esgidiau reidwyr ceffylau, a gwneud llawer o dasgau eraill. Roedd Chris, William a fi yn gorfod glanhau sadl ceffyl. Roeddem ni hefyd yn chwarae gemau hen ffasiwn fel tafu cylch, chwarae top a chwarae ceffyl.
















Ddydd Gwener roedd plant bl 6 yn cael eu cyfarfod olaf yn yr ysgol gynradd, ac roedd plant bl D,1,2 yn cynnal gwasanaeth i’r rhieni hefyd. Cawsom lyfr ar hanes Ysgol yr Eifl a geiriadur i gofio ein dyddiau yn yr ysgol. Cafodd Anti Ann, sydd wedi bod yn gweithio yma ers yr hydref flodau hefyd am ei bod hi yn ein gadael.




Hywel ac Alun

0 Comments:

Post a Comment

<< Home