Colur, Lan y Mor a'r Fan Llyfrgell
Dydd Mercher, roedd yna gwmni gwerthu colur yn yr ysgol gyda’r nos i godi arian at gronfa’r rhieni. Yn y diwedd codwyd £163 at y Gymdeithas. Da iawn ni, a diolch i Anti Ann am drefnu pethau.
Dydd Iau aeth blynyddoedd 5 a 6 lawr i lan y mor i dynnu lluniau o’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Roedd yna lawer o wahanol blanhigion a chreaduriaid yno. Gafaelodd Hywel Trefor mewn dau granc, shrimp a malwod mor, iych a fi! Daethom yn ol yn griw blinedig ar ol bod ar y creigiau a’r cerrig.
Dydd Gwener death y fan llyfrgell yn dod ond roedd rhai wedi anghofio eu llyfrau ond yn lwcus cawsant fynd adref i’w nol nhw amser cinio.
Lauren ac Elain
0 Comments:
Post a Comment
<< Home