Wythnos Gwyl Dewi
Ar ddydd Llun roedd rhagolygon am eira ac roedd pawb yn gobeithio am eira. Felly roedd edrych ymlaen mawr trwy’r wythnos.
Codais yn y bore ar ddydd Mawrth, roedd hi’n bwrw eira’n eithradol, ond doedd dim ond y mymryn lleiaf wedi sticio. Yn ystod yr amser chwarae cyntaf roedd pawb yn chwarae yn yr eira a rhoddodd rhywun lwmpyn i lawr fy nghefn.
Ddydd Mercher roedd hi yn Ddydd Gwyl Dewi. cawsom lawer o hwyl. yma rai o’n gweithgareddau yn yr ysgol:
Roedd holl blant yr ysgol yn gwisgo mewn lliwiau Cymreig ac yn dod a phunt efo fo i dalu am gael gwneud hynny. Roedd yr arian yn mynd i Ysbyty Alder Hay. Cawsom ddau gwis am Gymru, gwylio DVDs Cymraeg, a disgo gyda cerddoriaeth Cymraeg, a chystadleuaeth rhoi cynffon ar y ddraig a llawer o bethau eraill. Yn bwysicach na dim cawsom ginio Cymreig go iawn, gan gychwyn efo cawl cennin yno cawsom gig oen yn brif gwrs ac i bwdin cawsom gacen gri.
Ddydd Iau cafodd yr athrawon a’r plant gyfle i orffwyso a chael cyfle i fynd yn ol i’r patrwm arferol, ond roeddem yn dal i obeithio am eira. Roeddem yn clywed bod llawer iawn o eira yng Nghaernarfon.
Heddiw mae hi yn braf, ond rydan ni eisiau eira. Mae pawb arall wedi cael a dydi hynny ddim yn deg.
Megan
0 Comments:
Post a Comment
<< Home