Blog Ysgol yr Eifl

Friday, November 11, 2005

Dwr Cymru, Ty Gobaith a mwy o law.

Ddydd Mercher aethom i’r Ganolfan Hamdden, ac fel o’r blaen roeddem yn rhedeg am hanner awr cyn cychwyn, ond tro yma roeddym yn sych – diolch byth. Rhedodd plant blwyddyn 3,4,5,6 filltir ac rhedodd plant blwyddyn 1a 2 hanner milltir.

Ddydd Llun ar ol y gwasanaeth daeth Dalomi Mettcalfe yma ar ran Ty Gobaith i nol y pres roeddem wedi ei hel y llynedd. Cafodd Magan a Harri eu llun wedi ei dynnu gan y papur newydd.

Ar ddiwedd y diwrnod daeth Clara a Catrin o Dwr Cymru i ddangos ffilm i ni ac i ddweud wrthym sut i fod yn saff pan mae pobl yn gweithio. Bydd Dwr Cymru yn gweithio yn Nhrefor am saith mis.

Mae tair afon newydd ar dir yr ysgol oherwydd yr holl law erbyn hyn.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home