Blog Ysgol yr Eifl

Friday, November 04, 2005

Wythnos yn y glaw

Dydd Llun agorodd ysgol yr Eifl unwaith eto ar ol hanner tymor. Doedd hi ddim yn ddiwrnod braf iawn, roedd hi yn dresio glaw drwy’r dydd. Ychydig iawn o newid fu trwy’r wythnos. Glaw, glaw a mwy o law.

Roeddan ni’n yn gwneud mathamateg yn y bore, gwaith iaith cyn cinio, ar ol cinio roeddem yn son am y ‘Dolig ers talwm ac ar ddiwedd y dydd roeddem yn son am y Fari Lwyd.

Ar ddydd Mawrth dywedoddd Mr. Larsen stori Sara Wiliams wrthom. Stori oedd hon am Ferched Beca a’r tollbyrth ers talwm. Rydym yn ‘sgwennu dyddiadur ei chymdoges, Martha rwan.

Mae hi wedi bod mor wlyb yr wythnos yma fel bod pwll mawr o ddwr yn gwaelod y cowt a’r cae ac roedd na afon yn mynd drwy’r cae.pel droed.


0 Comments:

Post a Comment

<< Home