Yr Haul, lliwiau, Lesotho a Sbwriel
Yr wythnos hon ni chawsom fynd ar y gwellt yng nghae’r ysgol am ddau ddiwrnod oherwydd roedd yna rwybeth wedi colli ei liw yn y gwellt. Roedd o’n oren afiach ac roedd yn lliwio ein hesgidiau.
Daeth Heather i’n hysgol ni ddydd Iau. Soniodd am bobl yn taflu sbwriel ar hyd y pentref ac am blant sy’n bwlio plant eraill gyda’r nos. Rydym am wneud murlun sedan i ddangos hyn.
Buon yn gwneud ymchwil am y tywydd yn Lesotho ac am y planedau. ‘Roedd yn waith eithaf caled ond mae yn waith da ac weithiau’n hwyl . Hefyd cawsom ysgrifennu cerddi am liwiau.
Mae’r graffiau yma’n dangos pryd mae’r haul yn codi ac yn machlud mewn gwahanol rannau o hemisffer y gogledd.
Alun Meirion a Megan
0 Comments:
Post a Comment
<< Home