Y Ddrama, Crochenwaith a Hwyl Fawr Heather a Mr Gareth Jones
Dydd Llun dechreuwyd ar y ddrama Nadolig. Roedd pawb yn hapus am hyn am ddau reswm:
1 Doedden ni ond yn gorfod gwneud gwaith yn y bore.
2 Roeddem yn edrych ymlaen i gael gwybod pa ran roedd pawb yn ei chwarae.
Ar ol ysgol aethom i’r Urdd a chawsom wneud crochenwaith ac anifeiliaid efo clai. Ond doedd gan Elain,Haydn a Lowri ddim amser i wneud anifeiliaid - roedd rhaid iddyn nhw eu gwneud yn yr ysgol y diwrnod wedyn.
Dydd Mercher nid oedd rhaid i ni wneud recorders, ond roedd rhaid i ni redeg milltir yn y Ganolfan Hamdden. Wedyn cawsom gem iawn olaf bel rhwyd. Yr wythnos nesaf rydym yn mynd ymlaen i wneud Street Dancing. Mae o’n cwl ofnadwy.
Roedd Heather yr artist wedi bod gyda ni am rhyw bump wythnos a dydd Gwener oedd ei diwrnod olaf. Roedd Heather braidd yn wan ar y diwrnod olaf bu’n rhaid i dadau y digyblion ddod yma i dorri pren iddi. Roedd hi wedi bod yn gwneud murlun gyda ni ar y themau sbwriel gyda ni ac i ddweud y gwir roedd e wedi bod yn hwyl.
Daeth Mr Gareth Jones prifathro Ysgol Glan y Mor yma i siarad gyda bl. 5 a 6 ac i ddangos CD i ni. Roedd y CD yn dangos trip o gwmpas yr ysgol a beth fyddwn yn ei wneud pan fyddwn yno.
Elain, Lauren a Megan
0 Comments:
Post a Comment
<< Home