Blog Ysgol yr Eifl

Thursday, November 24, 2005

Tan, Dawnsio Stryd a Body Shop

Ddoe aeth Plas yr Eifl ar dan am ddeg o’r gloch y nos, a pharhodd y tan i losgi hyd 7:30am. Doedd y simne heb gael ei defnyddio ers rhai misoedd a’r funud taniodd y perchenog y tan roedd y fflamau wedi llenwi’r Coach House i gyd.

Ddydd Mercher aeth pawb i’r Ganolfan Hamdden a chawsom hwyl a’r y bws. Ar ol i ni newid aeth pawb i redeg milltir fel arfer. Ar ol cael pum munud bach o ddod at ei hunain, aethom i’r stafell ddawns i gael gwersi Dawnsio Stryd am y tro cyntaf erioed, ac roedd o’n gymaint o hwyl. Mair oedd yn ein dysgu. Roedd llawer o blant yn chwerthin a neb yn tagu a mynd yn goch fel arfer.

Roedd yna Body Shop gyda ‘r Urdd yn yr ysgol ar nos Lun. Roedd o yn cymaint o hwyl gyda rhai o’r merched yn mynd o gwmapas yn cosi pawb gyda massage roller. Roedd Bethan yn mynd o gwmpas mor chwim gyda gwahanol bnwyddau, ac roedd yna gyfle i da i brynu pethau hefyd.



http://i28.photobucket.com/albums/c248/AlbwmCai/plas050.jpg

0 Comments:

Post a Comment

<< Home