Blog Ysgol yr Eifl

Friday, June 30, 2006

Ymarfer at y mabolgampau, beioamrywiaeth y mor a Gary'r Clown

Ddydd Mawrth gwnaethom ddechrau ymarfer at fabolgampau’r ysgol. Byddwn yn gwneud pob math o bethau newydd y tro hwn, gan gynnwys ras beics araf, hoci, sgipio, ciciau cosb, ras rhwystrau a mwy.

Ddydd Mercher daeth y ddynas tynnu llun i’r ysgol a thynnu llun yr ysgol i gyd. Hwn fydd y llun ysgol diwethaf i blant blwyddyn chwech.

Ddydd Iau daeth dwy o ferched i’r ysgol. Enw un oedd Alison. Dywedodd llawer wrthym am anifeiliaid y mor. Dangosodd sleidiau a chawsom weithio efo pob math o bethau diddorol o’r mor.








Heddiw rydan ni wedi bod yn edrych ar sioe wyddoniaeth gan glown o’r enw Gary. Roedd y sioe yn ddiddorol iawn a chawsom ddysgu llawer am ddefnyddiau.





Yn y bore daeth Mrs Llwyd o Ysgol Glan y Mor i roi gwers Gymraeg i blant blwyddyn 6.

Brodie a Lauren

0 Comments:

Post a Comment

<< Home