Tripiau i Gaernarfon, Llanberis, Cricieth, Ysgol Glan y Mor
Ddydd Mawrth aeth bl 5 a 6 i Gaernarfon i edrych ar adeiladau a’u cymharu a rhai Trefor. Ar yr un diwrnod eth y plant bach i Lanberis i weld sut oedd tai yn edrych ers talwm iawn.
Ddydd Iau aeth plant bl.6 i Ysgol Glan y Mor ar y bws ysgol am y tro cyntaf. Roedd plant bl.6 yn meddwl ei fod yn brofiad gwych, ac yn ffordd dda iawn o baratoi ar gyfer mynd i Ysgol Glan y Mor ym mis Medi. Cawsant wersi Saesneg, Cymraeg a Thechnoleg.
Yn y cyfamser aeth gweddill y plant i Gricieth i weld cyngerdd drymiau. Roedd y cyngerdd yn dda iawn – a dwy ddynes oedd yn perfformio.
Ddydd Gwener roedd blwyddyn 5 a 6 yn perfformio ein gwasanaeth ar gyfer y rhieni. Sut i fod yn ffrindiau oedd thema’r gwasanaeth, a chawsom hwyl arno.
Megan ac Elain
0 Comments:
Post a Comment
<< Home