Blog Ysgol yr Eifl

Saturday, June 17, 2006

Sgipio noddedig, y Celtiaid a thynnu lluniau.

Dydd Llun roeddem ni yn ymarfer sgipio at ddydd Gwener, achos byddwn yn cael sgipio noddedig ar gyfer y British Heart Foundation er mwyn codi arian i bobl sydd efo rhywbeth o’i le ar eu calonau.

Ddydd Mawrth roeddem ni eto yn sgipio, ac roedd yr haul yn boeth. Roeddem yn mynd i nol dwr bob chwarter awr. Dydd Mercher roedd yr haul yn boethach byth ac roeddem ni’n chwysu go iawn erbyn hyn.

Ar ddydd Mercher aeth plant blwyddyn 3 a 4 i Nant Gwrtheyrn i astudio'r Celtiaid.

Dydd Iau naeth dynas tyny llunia ddod i’r ysgol ac roedd rhaid i Brodie a Hywel helpu efo’r tynnu lluniau – mynd i nol plant o’r dosbarthiadau ac ati. Ar Ddydd Gwener gwnaethom y sgipio noddedig trwy’r pnawn, ac roedd yr oren a gawsom ar y diwedd yn flasus iawn.

Hywel ac Alun

0 Comments:

Post a Comment

<< Home