Blog Ysgol yr Eifl

Tuesday, July 11, 2006

Mabolgampau'r Ysgol, Mabolgampau'r Dalgylch a Diwrnod yn Nant

Roeddym yn brysur iawn yr wythnos yma. Cawsom fagolgampau’r ysgol nos Fawrth, ac roedd hynny’n hwyl fawr. Mae pedwar ty, Elyrnion, Hendre, Yr Eifl a Ceiri. Cawsom pob math o rasus gan gynnwys ras beics araf, ras cylchoedd, ras rhwystrau ras rowlio a chystadleuaeth sgorio gol. Dydan ni ddim yn gwybod pa dy sydd wedi ennill hyd wythnos nesaf.

Ddydd Iau aethom i Ysgol Cymerau magolgampau y dalgylch. Cawsom hwyl yma hefyd. Daeth Dafydd yn gyntaf yn y ras gyflym a daeth Chris yn drydydd.



Dydd Gwener aethom i Nant Gwrtheyrn wneud gwahanol weithgareddau. Cafodd y plant mawr wneud cyfrifiannu a mynd am dro i’r Graig Ddu trwy’r coed. Yn y prynhawn cawsant helfa drysor. Chwaraeodd y plant bach nadroedd ac ysgolion a gem parasiwt cyn mynd am dro i’r goedwid. Yn y prynhawn cawsant chwarae yn y parc.



Am dro yn y coed.



Cyfeiriannu



Chwarae parasiwt



Helfa Drysor



Nadroedd ac ysgolion



Chwarae yn y parc
Haydn a Chris

0 Comments:

Post a Comment

<< Home