Blog Ysgol yr Eifl

Friday, October 06, 2006

Ymweliad gan Techniquest ac actio

Ar ddydd Llun daeth dyn yma o Techniquest i roi sioe wyddoniaeth i ni. Roedd hi’n sioe ddiddorol. Efallai y cawn fynd i Techniquest Llanberis i weld sioe arall.

Cawsom fynd i’r Ganolfan Hamdden fel arfer heddiw, ac yn y p’nawn cawsom wneud dramau bach ein hunain. Roedd rhaid i fi (Sioned) action dynas ofnadwy o posh.mewn ty bwyta, roedd Adam yn smalio bod yn wr i fi, a Non oedd yn gweithio yn y caffi. Roedd y bwyd i gyd yn ofnadwy yno. Cawsom hwyl.



Actio

Sioned, Adam a Nonn

0 Comments:

Post a Comment

<< Home