Blog Ysgol yr Eifl

Saturday, December 23, 2006

Wythnos olaf cyn y Nadolig

Yr wythnos yma mae hi wedi bod yn wythnos digon gwlyb a gwyntog, yn arbennig ar ddechrau’r wythnos. Ond doedd o ddim ots, cawsom wneud pob math o bethau diddorol yn ystod yr wythnos.

Dydd Llun cawsom wneud bisgedi sunsur efo Mandy y gogyddes. a cawsom fwyta’r bisgedi dydd Mawrth. Cawsom hefyd wneud calendrau efo llun o bawb yn yr ysgol arnyn nhw. Cawsom hefyd wneud ychydig o waith crefft a chanu carolau.







Aeth plant yr Urdd o gwmpas y pentref yn canu carolau ac yn hel pres i’r Urdd nos Lun.

Ar nos Fawrth roedd bingo yn yr ysgol i hel pres i’r ysgol gydag Anti Caryl yn galw’r rhifau.



Cawsom ein cinio Nadolig ddydd Iau. Roedd cyw iar, tatws rhost, sbrowts, a moron am y prif gwrs ac am ail gwrs roeddem yn cael dewis o bwdin dolig, minspeis neu hufen ia. Wedyn cawsom gemau o musical chairs a musical statues. Dydd Gwener oedd diwrnod olaf y tymor a chawsom ddod a fideos a DVDs a gemau i’r ysgol.





Yn y prynhawn planodd Elain ac Elin goeden yn yr ardd wyllt, fel rhan o’r Cynllun Ysgol Werdd. Rydym yn gobeithio cael medal arian eleni.



Wedyn cawsom hwyl yn edrych ar rhai o'r genod yn perfformio sioe.





Ar ddiwedd y diwrnod cawdom fynd a bagiau fferins adref efo ni.



Rhiannon a Molly

0 Comments:

Post a Comment

<< Home