Blogio pob dydd
Mae'r plant wedi bod yn blogio'n ddyddiol yr wythnos yma, ac mae eu blogiau wedi cael eu dangos ar wefan Ffeil.
Dyma rai o'r blogiau:
CL
Dydd Llun,
Mae hi’n reit wyntog heddiw ym mhob man. Oherwydd y gwynt nid ydym wedi cael mynd allan i chwarae o gwbl.
Dim ots, cafodd pawb gacennau blasus, yn lle y ffrwythau yr ydym yn eu cael pob bore, gan fam Guto. Roedd Guto yn cael ei benblwydd yn 6 oed ddoe.
Mae’r ysgol yn llawn o esgidiau hefyd – rydym yn hel hen esgidiau ar gyfer y rhaglen Blue Peter a daeth llawer iawn, iawn o esgidiau i’r ysgol heddiw.
Elain, Haydn a Lauren
Dydd Mawrth
Heddiw cawsom wasanaeth diddorol. Cawsom ein tystysgrifau sgiliau dwr am nofio’n dda yn y Ganolfan Hamdden.
Cawsom hefyd dystysgrif gan Ysbyty Alder Hay am hel pres iddynt. Roeddem ni wedi hel £200 iddynt mewn gwasanaethau y llynedd. Cawsom hefyd wybod ein rhannau yn y gwasanaeth Nadolig, Elain ydi Babwshca, teithiwr a phlentyn ydym ni.
Neithiwr roedd rhai ohonom ynn Ngwasanaeth Sul yr Urdd (ar nos Lun), oedd wedi ei drefnu gan Llinos Roberts a cawsom fferins ar y diwedd.
Dafydd a Jac
Dydd Mercher
Dydd Mercher olaf Mis Tachwedd ydi hi heddiw ac fe gawsom danjarins o’r siop ffrwythau. Roedd arogl da arnynt ac roeddynt yn gwneud i ni deimlo bod ‘Dolig yn agosau, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at ‘Dolig.
Pob Nadolig rydym yn ael parti yn yr ysgol,ond y tro hwn rydym yn cael un arbennig. Rydym yn cael mynd i Bwllheli i weld y pantomeim, ac wedyn ar y ffordd yn ol rydym yn stopio yn Glasfryn i gael ein parti ac ar ol bwyta rydym am gael bowlio deg. Os ydym ni’n blant da efallai y daw yr hen Sion Corn efo anrhegion i ni.
Nid y tanjarins ydi’r unig beth i’n hatgoffa bod ‘Dolig ar y ffordd. Mae’r gwasanaeth ‘Dolig mewn pethefnos, ac rydym wedi cael gwybod pwy ydi pwy ddoe. Babwshca ydi Elain, y Tri Gwr Doeth yw Lauren,Rhiannon a Molly ac mae llawer mwy o gymeriadau diddorol. Rydym yn dechrau ymarfer o ddifri heddiw.
Rhywbeth arall sydd yn gwneud i ni feddwl am y Nadolig ydi yr addurniadau Nadolig sydd i’w gweld yn ffenestri llawer o dai yn Nhrefor. Mae llawer o obl wedi addurno yn barod - pobl fel Dafydd a Rhiannon ac Anti Bet ac yn o fuan bydd pob man yn Nhrefor wedi ei oleuo. GOBEITHIO.
Ty mwyaf llachar Trefor - ty Anti Bet.
Elain a Lauren
Dydd Iau
Mae wedi bod yn wythnos wlyb a gwyntog, ac ni chawsom fynd allan yn ystod yr amser chwarae cyntaf. Ond roedd y tywydd yn ddigon da i ni fynd allan i redeg. ‘Rydan ni i gyd yn rhedeg 2km pob bore dydd Iau.
Daeth Valmai i’r ysgol y prynhawn yma. Valmai ydi mam Geraint, ac mae hi wedi bod yn paratoi gardd wyllt i ni yn yr ysgol. Cawsom liwio llun o bryf genwar a cawsom roi pridd a thywod a dail mewn bocs efo gwydr ar ei ochr, a llenwi’r twb efo pryfaid genwair. Rydw i a Luke yn gorfod rhoi dwr yn y bocs un waith pob dau ddiwrnod. Byddwn yn gallu astudio bywyd y pryfaid genwair yn ystod yr wythnosau nesaf.
Jac a Rhiannon
HEDDIW CAWSOM DDIWRNOD SGIDIAU GWIRION GWISGODD LOWRI SLIPARS GWYN FFLYFFI, GWISGODD ELLIE RHAI TEDI A SIONED A RHIANNON RHAI PINC.
GWISGODD ELAIN RHAI TRAED DREWI A GWISGODD YR HOGIAU RHAI WELINGTONS.
AETHOM I BWLLHELI I WNEUD YMARFER CORFF DOEDD MR LARSEN DDiM YNA HEDDIW I DDYSGU DAWNSIO (WEL TRIO GWNEUD HYNNY) FELLY MRS HARRIS OEDD YN EIN DYSGUAC ROEDD HI’N LLAWER GWELL AM DDAWNSIO NA MR LARSEN.
LOWRI AC ELLIE
0 Comments:
Post a Comment
<< Home