Panto, parti, bowlio 10, yr hen Sion Corn ac ymarfer at y gwasanaeth
Dydd Mawrth aethom i gyd i Bwllheli i weld y pantomeim. Roedd na lawer o gymeriadau lliwgar a diddorol yno ac roedd pawb yn chwerthin ac yn cael hwyl. Roedd yna hen ddyn, dyn drwg, Pwyll Pendefig Dyfed, ei gariad Rhiannon, lepricorn a llawer mwy. Yn y diwedd diwedd roedd pawb yn mynd ar y llwyfan i ddawnsio efo’r cymeriadau ac roedd Jac yn dawnsio efo’r hen ddyn.
Ar ol i’r panto orffen cawsom barti yn Glasfryn. Cawsom fwyd parti – bechdanau, crisps, bisgedi, jeli, hufen ia a diod oren a death Anti Eirian ac Anti Mandy i helpu ni rannu’r bwyd. Ar ol y parti cafodd pawb gyfle i fowlio deg. Gwnaeth Dafydd yn well na neb arall. Ar y diwedd daeth Sion Corn i lawr y llwybr wrth ochr y lonydd bowlio i roi anrhegion i ni. Wedyn aeth pawb adref yn hapus.
Ddydd Iau roeddem ni yn ymarfer y gwasanaeth trwy’r bore oherwydd oherwydd ein bod ni yn ei berfformio gyda’r nos. Mae o yn cael ei gynnal yng Nghapel Gosen. Mae Llwybr Bach wedi ail agor erbyn hyn, felly doedd ddim rhaid i ni fynd i Gapel Gosen trwy ardd Mr a Mrs Ellis ac roeddym yn medru mynd adref i lawr Llwybr Bach yn lle gorfod mynd dros wal!!.
Mae na llawer o bobl wedi dweud eu bod am ddod i’n gweld ni yn y gwasanaeth, ac mae pawb yn nerfus.
Wiliam a Stuart ac Elain
ON – bydd digon o luniau ac adroddiad ar y gwasanaeth ddechrau wythnos nesaf – gobeithio. CL
0 Comments:
Post a Comment
<< Home