Yn ol i'r ysgol
Dechreuodd yr ysgol dydd Mawrth yn lle dydd Llun oherwydd i’r athrawon ddod i’r ysgol i gael hyfforddiant.
Wedi dod i’r ysgol cawsom ddysgu am y tymhorau a thywydd yn gyntaf.
Roedd rhaid i ni redeg rownd y trac dau ddeg o weithiau ddydd Iau, roedd hi’n anodd ar ol y gwyliau.
Dydd Gwener aethom i’r Ganolfan Hamdden i wneud ymarfer corff. Roedd blwyddyn un a dau gwneud gemau, blwyddyn tri a pedwar dawnsio a blwyddyn pump a chwech yn gwneud gymnasteg.
Doedd Mr Larsen ddim yn yr ysgol pnawn dydd Gwener ac roedd rhyw ddynas yn ei le.
Lowri ac Ellie
0 Comments:
Post a Comment
<< Home