Ymarfer at yr Eisteddfod a ffonau symudol
Dydd Iau Chwerfor 15ed
Ar ol cinio roedd pawb yn cael amser i ymarfer at Eisteddfod Dydd Gwyl Dewi fydd yn cael ei chynnal yn festri Capel Maes y Neuadd ar Fawrth 1. Hefyd cawsom wneud posteri ar gyfer yr Eisteddfod gyda enw ein ty arnynt. Gwnaeth ty Ceiri hetiau gydag enw Ceiri arnynt. Roedd rhai plant wedi dod a tedi i’w addurno, ond doedd neb wedi cael amser i’w haddurno nhw. Felly bydd rhaid i ni eu haddurno nhw rhyw ddydd arall.
Roedd Ffeil i fod i ddod yma’r wythnos yma i’n ffilmio yn ailgylchu ffonau. Doedden nhw methu dod, ond byddant yn siwr o ddod rhyw ddiwrnod arall.
Dydd Gwener Chwerfor 16ed
Heddiw mae hi yn ddiwrnod diwethaf yn yr ysgol diolch byth. Hefyd roedd hi yn ddiwrnod diwethaf i gwneud ymarfer corff am ychydig am bod yr ystafelloedd newid am gael ei ail wneud o fory ymlaen. Ar y bws cawsom 5 hen ffon symudol i’w hail gylchu gan Moto Coch. Hen rhai pobl oedd wedi gadael nhw ar y bws ac erioed wedi dod i ofyn amdanynt ydynt. Dydyn nhw byth am eu cael nhw yn ôl rwan!.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home