Diwrnod Santes Dwynwen
Ddoe roedd hi yn ddiwrnod Santes Dwywen ac i ddathlu cawsom ddiwrnod heb waith. Cawsom ni ddim ffrwythau chwaith ond cawsom ffrwythau wedi eu dipio mewn siocled wedi meddalu.
Cawsom hefyd wneud cardiau Santes Dwynwen. Wedyn yn y prynhawn roedd disgo a chystadleuaeth dawnsio. Liam ac Elain wnaeth ennill y dawnsio unigol ac enillwyr y parau oedd Elain a Lauren. Y grwp gorau oedd Elin a Sera a Rhiannon a Sioned efo’i gilydd. Wedyn ar ddiwedd y diwrnod cawsom sioe gan nifer o’r genod - sioe maen nhw yn ei baratoi ar gyfer Rownd a Rownd. Roedd pawb wedi mwynhau y sioe ac roedd Elin a Sera yn falch iawn am hynny.
Dydd Mercher doedd yna ddim trydan yn Nhrefor am bod polyn trydan wedi mynd ar dan. Hefyd ar ddydd Mercher cawsom y newyddion da bod Enlli yn disgwyl.
Elin a Sera xx
0 Comments:
Post a Comment
<< Home