Blog Ysgol yr Eifl

Friday, May 18, 2007

Mynd am dro i Lanaelhaearn

Dydd Llun aethom i Lanaelhearn i weld drama efo plant Ysgol Llanaelhaearn am y crwban cefn lledr, sef y crwban mwyaf y byd. Roedd y ddrama yn ardderchog ac roedd pawb wedi mwynhau y trip.

Dydd Iau chwaraeodd y genod rownderi hefo Mrs Harris a chwareodd yr hogia pel droed hefo Mr Larsen. Rydym yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth y cylch.



Ddydd Gwener rydan wedi bod yn ceisio dod yn nes at ddarllen miliwn o eiriau. Rydan ni wedi cyrraedd 211,531 gair yn barod.

Ellie, Lowri ac Elin

0 Comments:

Post a Comment

<< Home