Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, December 18, 2005

Wythnos Olaf y Tymor

Dydd Llun buom yn gwneud gwaith technoleg trwy y diwrnod. Cawsom ddewis beth oeddem eisiau ei wneud. Gwnaethom ni graen, ond roedd rhai plant yn gwneud lifts neu giatiau i faes parcio..

Dydd Mercher aethom i theatr Gwynedd i weld Hela’r Twrch Trwyth. Roedd pawb wedi ei fwynhau a chawsom fynd ar y llwyfan ar y diwedd i gwrdd a’r actorion. Cawsom wisgo ein dillad ein hunain.trwy’r dydd. Pan y daethom yn ol i’r ysgol cawsom ddisgo a pharti ac hefyd cawsom chwarae gemau.

Ddydd Iau cawsom disgo bach arall ond doedd o ddim cystal na’r un mawr. Gyda’r nos aeth plant yr Urdd mynd o amgylch y pentref yn casglu arian trwy ganu carolau.

Ar ddydd Gwener cawsom cinio Nadolig gyda cerddoriaeth cyn mynd adref am y gwyliau Nadolig.

Haydn ac Alun Meirion

(Gobeithio y bydd y lluniau yn ol mewn rhyw wythnos – CL).

Friday, December 09, 2005

Wythnos y Ddrama 'Dolig

Dydd Mercher roedd holl blant yr ysgol yn cyflwyno'r ddrama Noa i bobl Trefor. Roeddym wedi bod yn ymarfer yn Y Ganolfan trwy'r wythnos. Wedi i ni orffen cawsom lawer o pobl yn dweud ein bod ni wedi gwneud yn dda iawn. Casglwyd £210 o bunoedd tuag at yr ysgol ac Ysbyty Alder Hay.

Roedd pawb yn nerfus iawn cyn dechrau, ond aeth pob dim yn iawn ar y noson. Y prif gymeriadau oedd Megan Dafydd ac Alun Pritchard a’r teulu.

Cawsom ymarferiad llawn yn y prynhawn a daeth Dewi Wyn i dynu llunia ohonom i’r papur newydd.

Mae blwyddyn 5 a 6 wedi bod yn gwneud eu addurniadau eu hunain heddiw a’r prynhawn yma rydym am wneud gwaith technoleg. Rydym am adeiladu craen neu felin wynt, neu gat neu lifft efallai.

Wythnos reit braf a dweud y gwir.





Megan ac Alun