Blog Ysgol yr Eifl

Saturday, March 25, 2006

Ymweliad a Phorthmadog

Dydd Mercher cawsom lawer o hwyl. Aeth 4 o plant o flynyddoedd 3,4,5,6 i Borthmadog i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘Gemau’r Gymanwlad’ Roedd yna ddeg o ysgolion yna i gyd, a cafodd pawb ei roi mewn un o 14 o ‘gwlad’. Wedyn cawsom chwarae pel droed, rygbi, hoci, a pel rwyd. Roedd plant o pob ysgol ym mhob gwlad.


Y chwaraeon ym Mhorthmadog

Bydd plant dosbarth Mrs Harris yn cynnal gwasanaeth heddiw sef dydd Gwener a bydd y rhieni yn dod i’w gweld. Gwasanaeth am ysgolion ers talwm a’r Welsh Not fydd o. Byddwn yn hel casgliad at Ysbyty Alder Hay. Rydym yn edrych ymlaen yn arw i weld y gwasanaeth.


Wiliam. Fo oedd yn actio O.M Edwards yn y gwasanaeth.

Alun Meirion

Monday, March 20, 2006

Gwasanaeth Ysgol Werdd a chwaraeon

Dydd Llun roeddem yn ceisio paratoi gwasanaeth ar gyfer Dydd Gwener. Mae’r gwasanaeth am ein ymdrech i ennill medal efydd o dan y cynllun Ysgolion Gwyrdd. Ond ar y diwrnod roedd un broblem bach, nid oedd un o’r cymeriadau ddim wedi dod i’r ysgol ar ddiwrnod y gwasanaeth. Ta waeth – cafodd pobl eraill ei ran ac aeth pob dim yn iawn yn y diwedd.

Rydym hefyd wedi bod yn dysgu pel rwyd a rygbi ac hoci oherwydd ein bod yn cymryd rhan yn Gemau’r Gymanwlad Bach ym Mhorthmadog yr wythnos nesaf. Mae nifer o ysgolion eraill yn cymryd rhan. Gobeithio y caw nein dewis i’r tim.



Alun ac Elain

Sunday, March 12, 2006

Ysgol Werdd a llwyddiant yn rhagbrofion yr Urdd

Ddydd Sadwrn cafodd y genod oedd cymerd rhan yn rhagbrofion yr Urdd ym Motwnog lwyddiant. Daethant yn gyntaf yn y gystadleuaeth cerdd dant, a daethant yn gyntaf, ail a thrydydd yn y gystadleuaeth chwythu corn.

Dydd Mercher cawsom wasanaeth am y Cynllun Ysgol Werdd. Mae’r ysgol yn ceisio cael y fedal efydd yn y cynllun eleni – ac yna byddwn yn ceisio cael medalau arian ac aur.

I gael y fedal byddwn yn ceisio cadw ein hysgol a ein pentref yn hardd a glan. Rydym wedi planu coeden yn yr ardd ac wedi arwyddo siarter i ddweud beth ydym am ei wneud. Tros yr wythnosau nesaf byddwn yn ceisio finiau yn Nhrefor, yn rhoi posteri i fyny yn dweud wrth bobl am beidio a thaflu sbwriel, yn dweud wrth rieni’r ysgol am ail gylchu ac yn ceisio gwneud yn siwr nad oes cemegolion sy’n ddrwg i’r amgylchedd yn cael eu defnyddio.



Posteri'r babanod.


Haydn

Saturday, March 04, 2006

Wythnos Gwyl Dewi

Ar ddydd Llun roedd rhagolygon am eira ac roedd pawb yn gobeithio am eira. Felly roedd edrych ymlaen mawr trwy’r wythnos.

Codais yn y bore ar ddydd Mawrth, roedd hi’n bwrw eira’n eithradol, ond doedd dim ond y mymryn lleiaf wedi sticio. Yn ystod yr amser chwarae cyntaf roedd pawb yn chwarae yn yr eira a rhoddodd rhywun lwmpyn i lawr fy nghefn.

Ddydd Mercher roedd hi yn Ddydd Gwyl Dewi. cawsom lawer o hwyl. yma rai o’n gweithgareddau yn yr ysgol:

Roedd holl blant yr ysgol yn gwisgo mewn lliwiau Cymreig ac yn dod a phunt efo fo i dalu am gael gwneud hynny. Roedd yr arian yn mynd i Ysbyty Alder Hay. Cawsom ddau gwis am Gymru, gwylio DVDs Cymraeg, a disgo gyda cerddoriaeth Cymraeg, a chystadleuaeth rhoi cynffon ar y ddraig a llawer o bethau eraill. Yn bwysicach na dim cawsom ginio Cymreig go iawn, gan gychwyn efo cawl cennin yno cawsom gig oen yn brif gwrs ac i bwdin cawsom gacen gri.

Ddydd Iau cafodd yr athrawon a’r plant gyfle i orffwyso a chael cyfle i fynd yn ol i’r patrwm arferol, ond roeddem yn dal i obeithio am eira. Roeddem yn clywed bod llawer iawn o eira yng Nghaernarfon.

Heddiw mae hi yn braf, ond rydan ni eisiau eira. Mae pawb arall wedi cael a dydi hynny ddim yn deg.







Megan