Blog Ysgol yr Eifl

Friday, January 30, 2009

Gwasanaeth gan Llinos

Yr wythnos diwethaf fe ddaeth Llinos Roberts i wneud gwasanaeth i’r ysgol. Addunedau blwyddyn newydd. Roedd Non a Lois wedi gwneud adduned, un Non oedd helpu mam a dad mwy ac un Lois oedd bwyta yn iachach .

Roedd plant blwyddyn 3,4,5 a 6 yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth gwneud poster heddwch i gofio am y rhyfel byd 1. Bydd yr enilliwr yn cael £50 i’r ysgol.
Adam a Geraint

Friday, January 16, 2009

Blwyddyn newydd dda i chi gyd sydd yn edrych ar hwn.

Dydd Llun cawsom y we yn ol ar ol 2 fis hebddo. Dydd Mawrth cawsom ni Gyngor Ysgol cyntaf y flwyddyn yma. Enw’r cadeirydd flwyddyn yma ydi Adam. Enw’r ysgrifennydd ydi Leah.

Yr wythnos diwethaf nid oeddym yn cael mynd allan oherwydd bod y tywydd mor oer.

Non a Leah