Tipyn bach o bob dim
Cawsom y cyngor ysgol ychydig yn ol ac mae plant Ysgol Llanalhearn yn dod acw i ddathlu’r Pasg efo ni.
Aeth plant mawr i Ysgol Llanaelhearn i weld Howard Hughes yn son am beidio ysmygu yn ddiweddar. Mae’r plant bach wedi perfformio mewn bore coffi ddydd Iau. Son oedd y perfformiad am fod yn saff ar y stryd, ac mi gawsant gerdded o gwmpas Pwllheli.
Rydym ni, y plant mawr wedi gwneud anrhegion o wledydd eraill ac rydym wedi eu gorffen nhw rwan. Wythnos nesaf byddwn yn cerdded o gwmpas Pwllehli i ddweud bod yr Eisteddfod yn dod i Glynllifon y flwyddyn nesaf.
Torrodd car Mrs.Harris i lawr ar y ffordd i’r ysgol ond aeth Mr. Larsen i’w nol hi yn ei gar ei hun. Daeth dyn o Scottish Power i son wrthym am drydan.
Cafodd y plant bach fynd i Neuadd Dwyfor i wrando ar stori.
Geraint ac Elliw
0 Comments:
Post a Comment
<< Home