Blog Ysgol yr Eifl

Monday, October 25, 2010

Wythnos olaf yr hanner tymor

Dydd Llun cawsom fynd i Llanberis i gyfeiriannu gyda Mair a Dewi. Cawsom hwyl, er bod y cae yn fawr iawn ac roedd rhaid i ni redeg ymhell.

Dydd Mercher cawsom wersi celf gyda Mrs Harris. Roedd pawb mewn tri grwp ac roedd y tri grwp yn gorfod gwneud deg llun am stori o’u ddewis.



Ddydd Iau roeddem ni yn gwneud cyflwyniad diolchgarwch yn y bore coffi yn festri Maes y Neuadd. ‘Doedd Llinos ddim yn gallu dod i’r bore coffi oherwydd y roedd i yn sal. Dydd Gwener yn y bore naethom ni neud gwaith datrys problemau gyda Mr Larsen.

Mae yna hogan o’r enw Hailey sy’n mynd i Goleg Menai yn Llangefni wedi dechrau yn Ysgol yr Eifl i astudio cwrs edrych ar ol plant.

Cawsom ni hefyd weld fideo o sioe ‘Dolig gan blant oedd yma ddeg blynedd yn ol. Sion oedd wedi dod a’r fideo i’r ysgol trwy ddamwain. Roedd yn ddiddorol gweld yr holl blant mawr fel oeddyn nhw yn edrych yn blant bach. Roedd hi yn sioe dda iawn.

Ar ol heddiw yr ydym ni hefo wythnos o wyliau ac mae’r plant i gyd yn edrych ymlaen yn arw at Galan Gaeaf.

Osian ac Elan

0 Comments:

Post a Comment

<< Home