Blog Ysgol yr Eifl

Tuesday, May 11, 2010

Beics, dringo, bore coffi, criced ac awyrennau papur




Ddydd Iau daeth Neil i’r ysgol o Glwb Criced Pwllheli i ddysgu ni sut i chwarae criced. Roedd ganddo pob math o gemau diddorol, a cawsom hwyl fawr yn eu chwarae.

Ddydd Gwener cafodd bl5 a 6 fynd i Ysgol Llanalhearn i weld drama bach am fwlio, ac roedd Kenneth ar Porc Peis Bach yn actio yn y ddrama. Cawsom sgwrs ar y diwedd am fwlio.

Dysgodd Mr Hughes plant blwyddyn 3,4, 5 a 6 i wneud awyrennau papur ac wedyn roedd rhaid i ni ‘sgwennu cyfarwyddiadau sut i wneud awyren bapur.

Cafodd blwyddyn 3, 4, 5 a 6 gyfle wneud sboncen a dringo wal yn y Ganolfan Hamdden.

Dysgodd Adam blwyddyn 5 a 6 sut i reidio eu beics yn saff a chafodd y rhan fwyaf o’r plant dystysgrif i ddangos ein bod yn gallu reidio yn saff.

Bu blwyddyn 6 yn gwau efo Llinos yn festri Capel Maesneuadd.Cawsom hefyd fore coffi yn yr ysgol pan cafodd pawb gyfle i son wrth y bobl wedi tyfu am ei anifael anwes ei hun.

Ifan a Morgan

0 Comments:

Post a Comment

<< Home