Wythnos gyntaf y flwyddyn
Dydd Llun dechreuodd yr ysgol yn ol wedi gwyliau’r Nadolig .Daeth tri o blant newydd yma - Molly bl.3 Osian bl.2 ac Alaw bl.meithrin.
Dydd Mawrth roedd hi yn bwrw eira ac roedd y llawr yn wyn. Mae hi wedi bod yn wythnos ofnadwy o oer, ac er na chafodd Trefor cymaint o eira na llawer o lefydd eraill rydan ni wedi gorfod aros i mewn amser chwarae oherwydd bod rhew ar hyd y cowt i gyd.
Dydd Mercher cawsom wersi recorder.
Dydd Iau cafodd Owain a Lowri wersi corn hefo Dylan, wedyn cafodd Lowri wersi ffliwt ac yn ddwyuthaf cafodd Jamie a Elliw eu gwers clarinet.
Dydd Gwener aethom i’r ganolfan hamdden trwy’r holl rew ac eira.
Lowri ac Osian
0 Comments:
Post a Comment
<< Home