Wythnos olaf y tymor
Dydd Mawrth roedd y Trip yr ysgol i Sw Bae Colwyn i weld yr anifeiliad. Roeddym yn cychwyn o’r ysgol am tua 9:00am ac roeddem adref erbyn tua 3:45pm.
P’nawn Dydd Mercher naeth John Ellis a’i gi Eliot a’i gwn eraill Lowri a George i weld pwy oedd yn ennill Selsig. Morgan oedd y dyn lwcus ac roeddem wedi hel £475 o bunoedd tuag at elusen cwn y deillion.
Ddydd Iau roedd y cyfarfod Diolch i Mrs Harris ac roedd yna llawer o pobl wedi dod i weld o ac roedd Geraint Jones wedi dod i’r ysgol i ddangos llunia o Mrs Harris pan oedd hi yn ifanc.
Ddydd Gwener roedd hi yn diwrnod dwythaf y tymor ac roeddem yn cael dod a gemau a DVDs, ffonau a bob math o bethau. Yn pnawn aethom i nofio yn Pwllheli. Dyma ddiwrnod olaf blwyddyn 6 yn yr ysgol. Cawsom ginio arbennig a y diwrnod.
Gan Leah a Non
Lluniau i ddilyn
0 Comments:
Post a Comment
<< Home