Dechrau'r flwyddyn ysgol newydd
Mae hi wedi bod yn dair wythnos bron ers i’r ysgol ddechrau. Ac oedd hi yn rhyfedd iawn oherwydd bod doedd Mrs Harris ddim hefo ni. Dydd Mercher aethom yn ol i’r ysgol. Cawsom i gyd lyfrau a beiro ac chwalwr ac phren mesur newydd.
Yr wythnos gyntaf roeddwn yn gwneud gwaith ar Rama a Sita.
Roedd y gwaith am wlad India. Yr wythnos wedyn cawsom wneud gwaith mathemateg a iaith a llyfr ymarfer. Cawsom waith anodd ond oedd o ddim mor anodd erbyn arfer chwaith. Ddydd Gwener cafodd blwyddyn 5 a 6 waith cartref.
Ddydd Mercher aethom i wneud gwaith yn Llanberis. Cawsom ymweld a Mynydd Gwerfy ac a’r amgueddfa lechi. Roedd y tywydd yn dda, diolch byth.
Heddiw am ytro cyntaf cafodd Sion siarad hefo dyn ffrwytha ar y ffon i archebu ar gyfer y siop ffrwythau. Roedd Sion yn chwerthin pan oedd o ar y ffon hefo Mr Roberts. Heddiw aeth y plant bach i Pwllheli i wneud chwaraeon. Ddydd Mawrth daeth Mrs Harris ddod i’r ysgol i deud ‘helo’. Roedd pawb wedi gwirioni.
Elan
0 Comments:
Post a Comment
<< Home